COVID-19
Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr sut rydych chi’n cefnogi ein gwaith i warchod a hyrwyddo ein treftadaeth Sioraidd. A hithau’n adeg anodd, os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu cyfrannu rhodd i’r Grŵp Sioraidd, bydden ni’n hynod o ddiolchgar.
Mae sawl ffordd y gallwch chi helpu i gefnogi gwaith pwysig y Grŵp Sioraidd. Pam na wnewch chi ystyried ymuno fel aelod, cyfrannu rhodd, neu wirfoddoli gyda ni?
Aelodaeth
Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i gyflogi pedwar Cynghorwr Cadwraeth sy’n teithio ledled Cymru a Lloegr i roi cyngor arbenigol am geisiadau cynllunio sy’n effeithio ar adeiladau a gerddi Sioraidd. Yn go aml, yn enwedig yn achos adeiladau rhestredig Gradd II, ni fydd yr unig rai i godi llais dros ran o’n treftadaeth sydd dan fygythiad. Drwy ymuno fel aelod, byddwch chi’n helpu i gefnogi ein gwaith creiddiol, pwysig.
Mae aelodaeth hefyd yn cynnwys:
- Cyfnodolyn blynyddol y Grŵp Sioraidd
- Cylchgrawn ddwywaith y flwyddyn
- Mynediad i ddigwyddiadau i aelodau, gan gynnwys darlithoedd, teithiau cerdded ac ymweliadau gwledig
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau aelodaeth gwahanol – o aelodaeth flynyddol i aelodaeth am oes (gydag opsiynau i unigolion ac ar y cyd), ynghyd ag aelodaeth gorfforaethol i’ch busnes.
Aelodaeth Gorfforaethol
Mae’r Grŵp Sioraidd yn croesawu sefydliadau o gyffelyb fryd, sy’n hyrwyddo’r arferion gorau yn eu meysydd arbenigol nhw, i ymuno â ni fel Aelodau Corfforaethol. Cysylltwch â ni ar 0207 529 8920 neu drwy members@georgiangroup.org.uk er mwyn inni allu trafod sut y gallai bod yn Aelod Corfforaethol o’r Grŵp Sioraidd fod o fudd i’ch sefydliad chi. Fel arall, cliciwch ar y botwm isod i ddod yn Aelod Corfforaethol heddiw.
Mae Aelodaeth Gorfforaethol yn cynnwys:
- Copi o’r Georgian Group Journal a dau rifyn o gylchgrawn The Georgian
- Bathodyn Digidol Cefnogwr i’w ddefnyddio ar blatfformau
- Amrywiaeth o gyfleoedd i noddi
- Cael eich cynnwys ar ein rhestr o gefnogwyr ar ein gwefan
- Y cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
- Gostyngiadau ar brisiau hysbysebu yng nghylchgrawn The Georgian
- Gostyngiadau ar bris llogi ystafell yn ein pencadlys yn Fitzroy Square, Llundain
Cyfrannu Rhodd
Mae haelioni ein cefnogwyr yn sicrhau y bydd modd i genedlaethau lawer fwynhau treftadaeth ein hadeiladau Sioraidd yn y dyfodol. Mae pob ceiniog a gawn yn mynd yn uniongyrchol tuag at ein gwaith pwysig.
A ninnau’n elusen fechan, gall rhoddion o unrhyw faint wneud gwahaniaeth anferth inni. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i elwa o roddion untro, cyfraniadau misol rheolaidd tuag at Gronfa Oak (i dalu am gostau gwaith achos), ac amryw o gymynroddion. Wrth i’n llwyth gwaith gynyddu, ac wrth i gyllid cyhoeddus barhau i ostwng, mae refeniw o roddion yn bwysicach nag erioed.
Diolch i’ch cefnogaeth a’ch haelioni chi, mae modd inni barhau i godi llais dros warchod ein treftadaeth genedlaethol mewn ffordd sensitif ac addas.
Gwirfoddoli
O dro i dro, bydd gennyn ni gyfleoedd ichi wirfoddoli gyda ni ar brosiectau penodol.
Dydyn ni ddim yn chwilio’n benodol am wirfoddolwyr newydd ar hyn o bryd, ond mae croeso ichi anfon ymholiad i office@georgiangroup.org.uk

Share this Post