Cyflwyniad i Bensaernïaeth Sioraidd

Mae’r cyfnod Sioraidd yn dechrau yn 1714, blwyddyn esgyniad Siôr I i’r orsedd, ac yn para tan 1830, pan fu farw Siôr IV.Mae’r term ‘Sioraidd hwyr’ yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio celfyddyd a phensaernïaeth yn oes Wiliam IV, ond ar ôl ei farwolaeth yn 1837, Fictoraidd yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio. 

Ym Mhrydain, roedd y cyfnod Sioraidd yn un cymharol heddychlon a llewyrchus, a bu twf mawr mewn adeiladu.Codwyd myrdd o adeiladau, yn rhai diwydiannol a sifig, yn blastai ac yn filas mewn trefi ac yn y wlad, a hyn yn amlach na heb yn yr arddull Glasurol. Cafodd tirweddau ysblennydd eu dylunio hefyd.Pensaernïaeth Glasurol oedd yn nodweddu’r cyfnod ar y cyfan, ac mae nifer o’r adeiladau a godwyd ar y pryd wedi’u gwarchod gan y gyfraith heddiw, boed drwy gael eu rhestru neu drwy fod mewn Ardaloedd Cadwraeth.Mae’n debyg mai’r plastai Prydeinig yn y wlad, a’r palasau trefol sydd bron wedi diflannu bellach, oedd penllanw arloesi, arddull a chwaeth bensaernïol y cyfnod Sioraidd, tra bo terasau prydferth Caerfaddon, Bryste, Llundain, Caeredin, Dulyn a Newcastle upon Tyne wedi dod yn batrwm o geinder a soffistigeiddrwydd yr oes.  

PENSAERNÏAETH BALADAIDD

Daeth cryn dro ar fyd pan ddaeth llinach Hanofer i’r frenhiniaeth yn 1714, gan ysbrydoli arddull bensaernïol newydd, gyfoes: Paladiaeth neu neo-Baladiaeth. Roedd yr arddull bensaernïol Baladaidd yn deillio’n bennaf o waith Andrea Palladio (1508-1580), pensaer o Fenis yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a oedd yn ei dro wedi cael ei ysbrydoli gan bensaernïaeth yr hen Rufain. Ceisiodd adfywio’r egwyddorion a oedd wedi bod yn sail i bensaernïaeth hynafol, gan gynnwys cyfrannedd, cymesuredd, a’r defnydd cywir o’r dulliau Clasurol. Parhaodd neo-Baladiaeth, a oedd hefyd yn cynnwys syniadau o waith Serlio a dylanwadau eraill o’r Dadeni, yn boblogaidd rhwng 1714 a thua 1760. 

Nid oedd Paladiaeth yn newydd i Brydain, gan fod Inigo Jones (1573-1652) wedi’i hyrwyddo yn y ganrif flaenorol.Gellir gweld y dylanwadau hyn yn ei waith ar y Queen’s House yn Greenwich, y Banqueting House yn Whitehall, a’r Queen’s Chapel yn St James’s, Llundain.Serch hynny, yn sgil tryblith y Rhyfel Cartref a’r Rhyngdeyrnasiad, ni lwyddodd yr arddull i wreiddio’n llwyr.Yn dilyn Tân Mawr Llundain yn 1666, a roddodd gyfleoedd dirifedi i ailadeiladu, taniwyd dychymyg pobl yn lle hynny gan elfennau theatrig yr arddull Faróc.Roedd yr arddull hon wedi ymddangos yn yr Eidal ar ddiwedd y Dadeni, gyda’i haddurniadau cain, ei siapiau beiddgar, ei ffurfiau cromlinog a’i llinellau grymus. Ymhlith adeiladau enwog sydd â’r nodweddion hyn mae Seaton Delaval Hall yn Northumberland, a ddyluniwyd gan Syr John Vanbrugh (1664-1726) a Chadeirlan St Paul, Llundain, gan Syr Christopher Wren (1632-1723). 

Parhaodd poblogrwydd yr arddull Faróc tan ddechrau’r ddeunawfed ganrif, pan gafodd ei disodli’n ddisymwth gan y ffurfiau neo-Glasurol purach a ffefrid gan ddilynwyr Paladiaeth.Dechreuodd cenhedlaeth newydd o benseiri fwrw ati’n bwrpasol i adfywio gweledigaeth Palladio, proses a gafodd hwb gan y cyfieithiad cyflawn cyntaf i’r Saesneg o’i Four Books of Architecture o 1716 ymlaen. Roedd Richard Boyle, 3ydd Iarll Burlington (1694-1753), ynghyd â’i gydymaith William Kent (1685-1748), yn ddau a hyrwyddodd yr arddull newydd, gan ddylunio, ymhlith eraill, Chiswick House. Dyma fila a gynlluniwyd yn ganolog ac sy’n fawr ei fri.Fel yn achos nifer o adeiladau Paladaidd, mae muriau allanol plaen Chiswick yn cyferbynnu’n drwm â’r addurniadau coeth y tu mewn, gyda llawer o fanylion y rhain yn dangos dylanwad adeiladau’r hen Rufain neu ddyluniadau Inigo Jones (yn y llefydd tân ac ar y nenfydau, er enghraifft).Ymhlith adeiladau Paladaidd enwog eraill mae Holkham Hall, Norfolk, a Woburn Abbey, Swydd Bedford.Ymysg hyrwyddwyr eraill yr arddull Baladaidd roedd Colen Campbell (1676-1729) – helpodd ei gyhoeddiad dylanwadol, Vitruvius Britannicus (1715-25), i hyrwyddo’r steil – Henry Flitcroft (1697-1769) a Matthew Brettingham (1699-1769). 

PENSAERNÏAETH NEO-GLASUROL

Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, arweiniodd dyhead i gefnu ar gaethdra’r rheolau Paladaidd at ymddangosiad yr arddull neo-Glasurol, a oedd yn fwy rhwydd ei natur ac yn dangos dylanwad amrywiaeth ehangach o ffynonellau Clasurol.Sbardunwyd hyn gan y darganfyddiadau archeolegol yn Herculaneum a Pompeii yn yr Eidal, a gan waith a wnaed i gofnodi pensaernïaeth yr hen Roeg.Yn sgil cyhoeddiadau dylanwadol fel Antiquities of Athens (1762) gan James Stuart a Nicholas Revett, a Ruins of The Palace of The Emperor Diocletian(1764), gan Robert Adam, ynghyd â dylanwad y Daith Fawr, cynyddodd y diddordeb mewn dod o hyd i arddull wir hynafol.Stuart sy’n cael y clod am gyflwyno arddull y Diwygiad Groegaidd i Brydain, tra llwyddodd Adam i greu ei arddull addurniadol unigryw gan ddefnyddio amrywiaeth gyfyngedig o addurniadau a oedd wedi’u seilio ar ffynonellau hynafol a’r Dadeni.Mae ei furiau a’i nenfydau’n enwog am eu lliwiau pastel a’u haddurniadau cain, di-dor. Mae enghreifftiau nodedig ohonyn nhw i’w gweld yn Osterley Park, Middlesex, Home House, Llundain, a Saltram Park, Dyfnaint.Ymhlith hyrwyddwyr eraill yr arddull neo-Glasurol roedd Syr William Chambers (1723-1796) a Syr John Soane (1753-1837). 

ARDDULLIAU PENSAERNÏOL ERAILL

Er mai’r arddull bensaernïol Glasurol oedd yr un amlycaf drwy gydol y cyfnod Sioraidd, daeth nifer o arddulliau eraill, fel Rococo, Chinoiserie a Gothig hefyd yn boblogaidd.Byddai hynafiaethwyr a phenseiri’n annog diddordeb mewn adfywio pensaernïaeth Gothig ganoloesol, gan gredu y byddai honno’n arddull genedlaethol addas. Roedd motifau Gothig addurniadol yn nodweddu’r arddull hon, fel terfyniadau, ffenestri lansed, mowldin capan, nenfydau wedi’u ffanfowtio a chreneliadau, a daeth yn ddewis poblogaidd, amgen i’r arddulliau neo-Glasurol.Cafodd poblogrwydd yr arddull hwb pellach gan gyhoeddiad dylanwadol Batty Langley, Ancient Architecture: Restored, and Improved by a Great Variety of Grand and Useful Designs, Entirely New in the Gothick Mode (1741-42).Ymhlith enghreifftiau enwog mae Strawberry Hill House yn Twickenham gan Horace Walpole (1717-1797), Arbury Hall gan Syr Roger Newdigate’s (1719-1806) a thŷ Gothig y Fonesig Pomfret (1698-1761) yn 18 Arlington Street (wedi’i ddymchwel). 

Ymddangosodd yr arddull Rococo yn wreiddiol yn Ffrainc yn yr 1720au a’r 1730au, ac mae’r enw’n deillio o’r gair Ffrangeg ‘rocaille’, sy’n golygu craig neu gragen doredig – a byddai’r arddull yn defnyddio motifau naturiol yn aml. Defnyddid Rococo’n bennaf ar gyfer addurniadau mewnol ac i addurno dodrefn, llestri arian a nwyddau drudion eraill.Ffynnodd yr arddull yn y byd dylunio yn Lloegr rhwng 1740 a 1770, gan ennyn rhagor o boblogrwydd yn sgil llyfrau patrymau addurniadau gan Matthias Lock a Henry Copland, ac yn fwyaf enwog, Gentleman and Cabinet Maker’s Director (1754) gan Thomas Chippendale. Rhoddai’r rhain batrymau ar gyfer amrywiaeth eang o ddodrefn Seisnig yn yr arddulliau Rococo, Tsieneaidd a Gothig.Mae Ystafell Gerddoriaeth Norflok House, sydd bellach i’w gweld yn amgueddfa V&A, yn enghraifft ysblennydd sydd wedi goroesi o ystafell Rococo Sioraidd. 

Roedd Chinoiserie yn arddull addurniadol arall yr oedd mynd mawr arni, a honno’n dangos dylanwad celf a dylunio o Tsieina, Japan a gwledydd eraill Asia.Yn y ddeunawfed ganrif yr ymddangosodd yr arddull hon hefyd, a byddai’n aml yn darlunio tirluniau, pafiliynau, adar ecsotig, blodau, bwystfilod mytholegol a ffigurau Tsieneaidd. Byddai’r arddull hon yn aml yn cael ei defnyddio ar addurniadau, gyda phorslen, dodrefn a phapur wal Tsieneaidd, prydferth a beintiwyd â llaw yn harddu ystafelloedd. Byddai’r arddull Chinoiserie hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer pensaernïaeth gerddi, gyda thai haf Tsieneaidd yn dod yn arbennig o ffasiynol yn ystod canol y cyfnod Sioraidd.Y Pagoda yng Ngerddi Kew yw un o’r enghreifftiau enwocaf, o bosibl. Cwblhawyd hwnnw yn 1762 fel rhodd i’r Dywysoges Augusta. Syr William Chambers oedd y dylunydd. 

ARDDULL Y RHAGLYWIAETH

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymddangosodd arddull y Rhaglywiaeth, a ddefnyddiai fotifau o bob rhan o’r sbectrwm arddulliadol, gan gynnwys dylanwadau neo-Glasurol a’r Diwygiad Gothig, ynghyd ag arddulliau mwy ecsotig, fel rhai Indiaidd, Tsieneaidd a Thuduraidd.Efallai mai un o’r enghreifftiau gorau o arddull ryfeddol y Rhaglywiaeth yw’r Pafiliwn Brenhinol yn Brighton, a weddnewidiwyd ar gyfer y Rhaglyw Dywysog gan John Nash rhwng 1815 a 1823. 

RHESTR DDARLLEN

Mae rhestrau darllen manwl i’w gweld ar ein tudalen Lyfryddiaeth, ond efallai y bydd y llyfrau canlynol yn rhoi cyflwyniad cyffredinol gwerth chweil i bensaernïaeth Sioraidd: 

  • James Stevens Curl, Georgian Architecture: The British Isles 1714-1830 (Swindon: English Heritage, 2011) 
  • Dana Arnold, The Georgian Villa (Stroud: History Press, 2011) 
  • Dana Arnold, The Georgian Country House: Architecture, Landscape and Society (Stroud: Sutton, 2003) 
  • John Cornforth, Early Georgian Interiors (New Haven; Llundain: Yale University Press ar gyfer y Paul Mellon Centre for Studies in British Art, 2004) 
  • Amanda Vickery, Behind Closed Doors: At Home in Georgian England (New Haven a Llundain: Yale University Press, 2009) 
  • Patricia Mccarthy, Life in the Country House in Georgian Ireland (New Haven: Yale University Press, 2016) 
  • John Harris, The Palladian Revival: Lord Burlington, His Villa and Garden at Chiswick (New Haven; Llundain: Yale University Press, 1994) 
  • Peter Lindfield, Georgian Gothic: Medievalist Architecture, Furniture and Interiors, 1730-1840 (Woodbridge: The Boydell Press, 2016) 
  • Rachel Stewart, The Town House in Georgian London (Llundain: Yale University Press, 2009) 
  • Kate Retford and Susanna Avery-Quash (eds.), The Georgian London Town House Building: Collecting and Display (Llundain; New York: Bloomsbury Visual Arts, 2019). 
  • Susan Weber (gol.), William Kent: Designing Georgian Britain (New Haven a Llundain: Yale University Press, 2013) 

 

Gyda diolch i Dr Amy Boyington