Cronfa Cleary

Grantiau i Warchod Adeiladau Hanesyddol

Mae’r Grŵp Sioraidd yn gweinyddu Cronfa Dreftadaeth F.E. Cleary, sef ymddiriedolaeth elusennol fechan sy’n ceisio gwneud gwaith cadwraeth ar bensaernïaeth Sioraidd. Pwyllgor Gweithredol y Grŵp yw Ymddiriedolwyr y Gronfa. Bydd grantiau’n cael eu rhoi’n flynyddol i nifer bychan o brosiectau sy’n canolbwyntio ar atgyweirio adeileddau Sioraidd. Bydd y grant mwyaf sydd ar gael i un prosiect gan amlaf wedi’i gyfyngu i £2,500 a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir rhoi ffigur uwch. Gofynnir i ymgeiswyr nodi’r uchafswm maen nhw’n gofyn amdano gan Gronfa Cleary.Gan fod y symiau dan sylw’n fach, y bwriad felly yw ysgogi cynlluniau, procio ffynonellau eraill i roi grantiau, ac ariannu elfennau penodol mewn cynlluniau mwy o faint. 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yn flynyddol ym mis Medi i ystyried yr holl geisiadau a ddaeth i law dros y flwyddyn. Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw 31 Awst. 

Mae’r nodiadau canlynol yn esbonio sut i wneud cais am grant, pa brosiectau sy’n gymwys, a’r amodau sy’n gysylltiedig â grant. 

Sut i Wneud Cais

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 31 Awst; byddwch chi’n cael clywed canlyniad eich cais am grant erbyn dechrau mis Hydref. 

  1. Cyn cyflwyno’ch cais, darllenwch ein Meini Prawf Cymhwystra i ddarganfod a yw eich prosiect yn gymwys i gael cyllid. Dylech hefyd ymgyfarwyddo ag Amodau’r Grant cyn gwneud cais. 
  2. Os hoffech chi drafod a yw eich prosiect yn gymwys cyn gwneud cais, neu os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am Gronfa Cleary, anfonwch e-bost at Edward Waller: edward@georgiangroup.org.uk 
  3. I wneud cais am grant, llenwch a dychwelwch y Ffurflen Gais. Mae’r dogfennau ategol y bydd angen ichi eu darparu gyda’ch cais wedi’u rhestru ar y ffurflen. 
  4. Rydyn ni’n ffafrio ceisiadau drwy e-bost. Anfonwch eich cais at Edward Waller: edward@georgiangroup.org.uk. Dewis arall yw cyflwyno’ch cais drwy’r post: The Georgian Group, 6 Fitzroy Square, Llundain, W1T 5DX.