Gwaith achos

Ers 1971, mae’r Grŵp Sioraidd wedi bod yn gymdeithas amwynder genedlaethol. Rydyn ni’n ymgynghorai statudol yn y broses gynllunio yng Nghymru a Lloegr pan fydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynigion i addasu neu ddymchwel adeiladau rhestredig sy’n dyddio, yn llawn neu’n rhannol, o’r cyfnod rhwng 1700 a 1840. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori â’r Grŵp Sioraidd am geisiadau perthnasol, a byddwn ni’n cael ein hysbysu am filoedd lawer o’r rhain bob blwyddyn. Mae’r Grŵp yn aelod o Gydbwyllgor y Cymdeithasau Amwynder Cenedlaethol (JCNAS), a dylai gael ei hysbysu drwy’r gronfa ddata ar y cyd ar gyfer ymgynghori yn y maes cynllunio:Hyb Gwaith Achos Ar-lein JCNAS. 

Mae’r Grŵp yn gwneud gwaith tebyg drwy systemau trwyddedu’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr, ac mae hefyd yn cynghori cyrff cynllunio mewnol yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Gatholig, Eglwys y Bedyddwyr, a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig ynghylch eglwysi a chapeli rhestredig, gan gynnwys ail-archebu neu gael gwared ar gelfi a gosodiadau hanesyddol. 

Meysydd Diddordeb

Ceisiadau i wneud gwaith addasu a dymchwel ar adeiladau rhestredig, a hynny ar gyfer adeiladau o bob math sy’n cynnwys adeileddau a gosodiadau sy’n dyddio o’r cyfnod rhwng 1700 a 1840. 

    • Ceisiadau i wneud gwaith sy’n effeithio’n sylweddol ar leoliad adeiladau neu strwythurau a godwyd rhwng 1700 a 1840 neu waith sy’n effeithio ar gymeriad y rhannau hynny o’n hamgylchedd hanesyddol sydd â chymeriad Sioraidd yn bennaf. 
    • Gofalu am adeiladau Sioraidd a’u gwarchod. 
    • Hyrwyddo dylunio da yn yr amgylchedd adeiledig Sioraidd ac mewn parciau a gerddi Sioraidd. 
    • Hyrwyddo gwell dealltwriaeth o bensaernïaeth a thirweddau sydd wedi’u dylunio a’r rheini’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Cysylltu â Ni

Mae dwy ffordd o gysylltu â ni: 

AR GYFER CEISIADAU CYNLLUNIO 

I roi gwybod inni’n swyddogol am gais, neu i ofyn am gyngor cyn gwneud cais, anfonwch e-bost i casework@jcnas.org.uk. 

Fe allwch chi hefyd edrych i weld a yw eich cais wedi cyrraedd y Grŵp a hynny drwy’r gronfa ddata gyhoeddus. Cliciwch ar y botwm ‘Public access’ yn y ddolen hon i fynd i’r dudalen chwilio; teipiwch fanylion eich cais cyn dewis ‘search’. Cliciwch ar y ddolen i gais ac os oes tic gwyrdd gerllaw’r Grŵp Sioraidd o dan ‘notified organistions’, mae’n golygu bod eich cais wedi’i anfon at y Cynghorwr Cadwraeth perthnasol i’w ystyried. 

Sylwch y gall gymryd ychydig ddiwrnodau i hysbysiadau gael eu cofnodi ar y gronfa ddata. 

AR GYFER ADEILADAU SY’N WYNEBU RISG 

Mae ein hadnoddau ni’n gyfyngedig ac allwn ni ddim edrych ar bob achos, ond os ydych chi’n credu bod esgeulustod neu gynigion sylweddol i wneud gwaith addasu yn bygwth adeiledd adeilad hanesyddol pwysig, anfonwch e-bost i consult@georgiangroup.org.uk i siarad ag un o’n Cynghorwyr Cadwraeth. 

A fyddech cystal â rhoi cyfeiriad llawn yr adeilad, a rhoi gwybod inni a oes unrhyw geisiadau am Gydsyniad Adeilad Rhestredig yn berthnasol iddo ar hyn o bryd; fydd dim modd inni ymateb oni bai bod y wybodaeth hon wedi’i rhoi.Dylid cynnwys ffotograffau o’r adeilad os bydd hynny’n bosibl. 

Cyn cysylltu â ni, darllenwch y rhestr ganlynol o faterion na allwn ni helpu â nhw. 

Sylwch na all y Grŵp Sioraidd roi cyngor am y canlynol

Gwaith sy’n effeithio ar adeiledd neu leoliad adeiladau sy’n dyddio’n llwyr o’r cyfnod cyn 1700 neu ar ôl 1840.

    • Ni allwn gynnal arolygon strwythurol o adeiladau 
    • Materion sy’n ymwneud â threth neu dreth ar werth ac adeiladau hanesyddol 
    • Materion archeolegol 
    • Materion sy’n ymwneud â lleiniau gleision 
    • Does dim modd inni argymell contractwyr 

Cydnabyddiaethau

Mae’r Grŵp Sioraidd yn ddiolchgar i Historic England (drwy ei Grant Datblygu Capasiti Cenedlaethol) a Cadw am ariannu ei waith achos yn rhannol.